23/06/2026
Ffynnon wybodaeth
Mae angen sylw ar y ffenestr Gothig dal ar risiau'r prif dŵr.
Cymerwyd sganiau 3D o'r garreg wreiddiol yr wythnos hon er mwyn torri piler canol newydd, sy'n union yr un fath â'r gwreiddiol.
Cafodd y gwaith sganio ei wneud gan y Manylwr Maen Joe Bradley o gwmni Masonry Design.
Mae ffrâm y ffenestr i’w gweld mewn llun cynnar o Westy'r Castell, ond heb y gwydr.
Mae hyn yn codi'r cwestiwn, a osodwyd y gwydr gan ddatblygwr gwreiddiol y gwesty, Thomas Savin?
Neu a gafodd ei osod ar ôl i'r Brifysgol brynu’r safle ym 1867?
Unwaith eto mae'r tywydd wedi gadael ei ôl.
Bydd angen tynnu'r paneli gwydr crwm yn ofalus er mwyn gosod piler carreg newydd.
Fel y soniasom yn ein herthygl ar wydr treftadaeth yn ôl ym mis Ionawr, mae tynnu hen wydr gyda'i amhureddau yn oerfel y gaeaf yn cynyddu'r perygl o’i dorri.
Felly rydym wedi oedi tan gynhesrwydd cymharol yr haf.
A phwy sydd wedi sylwi ar y twll bach yn silff y ffenestr?
Yng ngeiriau’r pensaer J P Seddon ei hun, roedd hwn ar gyfer ‘a segmented aspidal projection’.
Mewn geiriau eraill, ei fwriad oedd gosod ffynnon fach yno ac roedd y twll ar gyfer ffrwd ddŵr.
Ffynnon ddŵr a ddaeth yn ffynnon wybodaeth.
Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru
16/06/2026
Y Wraig Gymreig
Ydych chi erioed wedi sylwi ar y wraig mewn het Gymreig draddodiadol fyny fry ar yr Hen Goleg?
Mae’r gwaith cadwraeth ar y creaduriaid chwedlonol grotesg sydd i’w gweld o amgylch yr adeilad rhestredig gradd 1 wedi dechrau.
Y cyntaf yw’r saith gargoel sy'n edrych i lawr ar Stryd y Brenin o 6ed llawr adeilad Gogledd Seddon.
Yn eu plith mae'r Wraig Gymreig, y lleiaf grotesg o'i chyfoedion ac sydd o bosibl yn unigryw.
Mae’r gargoeliau, sydd wedi eu cerfio o galchfaen ac yn bwyso tua 100kg yr un, yn dal rannau uchaf y pibellau sy'n draenio'r glaw oddi ar y toeau.
Yn wir, daw’r gair gargoel o ‘gargouille’ yn y Ffrangeg, "sianel ar gyfer dŵr yn llifo", ac mae sŵn dŵr yn garglo wrth ddraenio'n dod i'r meddwl yn syth.
Mae'r gwaith cadwraeth yn cael ei wneud gan dîm arbenigol o gwmni Skillingtons yn Grantham.
Unwaith eto, fel a welwyd gyda chymaint o'r gwaith cerrig ar yr Hen Goleg, ni fu’r elfennau’n garedig wrth y gargoeliau, ond mae cywreindra’r cerfiadau yn golygu bod y pwyslais ar gadwraeth yn hytrach nag adfer.
I'r Wraig Gymreig, mae'r crwst gypswm du sydd wedi tyfu dros ei hwyneb a'i gwddf yn cael ei dynnu'n ofalus, ei naddu â llaw a'i feddalu gyda phowltis cyn ei dynnu oddi yno.
Hyd yn oed ar ôl diwrnod o waith, mae'r newid yn amlwg.
Ar ôl ei glanhau, bydd yn cael ei sefydlogi ac unrhyw holltau neu graciau yn y garreg yn cael eu growtio.
Byddwn yn dilyn tîm Skillingtons wrth iddynt weithio eu ffordd o amgylch yr Hen Goleg i warchod y creaduriaid rhyfedd hyn, gan gynnwys dau sy'n cynnwys y geiriau 'Error' a 'Darkness'!
Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru
09/06/2026
Gwaelod y graig
Rydym wedi bod yn tyllu’r graig o dan yr Hen Goleg.
Roedd gwneud yr adeilad yn hygyrch i bawb yn ystyriaeth allweddol o'r cychwyn cyntaf i’r prosiect uchelgeisiol hwn.
Faint o gyn-fyfyrwyr a staff sy’n cofio'r grisiau diddiwedd a ddringwyd rhwng darlithoedd a seminarau?
Mae tair ar ddeg o lifftiau'n cael eu gosod ar draws y pum adeilad prosiect yr Hen Goleg.
Yn adeilad Ferguson, a agorwyd ym 1898, mae ffynnon olau drionglog sy’n ymestyn dros bum llawr yn cael ei haddasu ar gyfer lifft newydd.
Wedi'i leinio â briciau melyn sgleiniog a ffenestri mawr gwydr a phlwm, mae'n ddramatig er nad oes llawer yn sylwi arni.
Bydd y lifft newydd gyda’i hochrau gwydr yn galluogi ymwelwyr i symud yn hwylus rhwng lloriau’r parth Byd Gwybodaeth, wrth iddynt ryfeddu at yr em gudd hon o waith adeiladu Fictoraidd.
Er mwyn creu lle ar gyfer y lifft a'i hoffer, bu rhaid cloddio'n ddwfn i’r graig islaw’r Hen Goleg.
Unwaith y bydd y twll newydd wedi'i leinio i rwystro’r dŵr rhag dod i mewn, bydd modd dechrau ar y gwaith o adfer y ffynnon olau a gosod y lifft newydd.
Welwch chi agoriad y ffynnon olau yn yr olaf o luniau’r wythnos hon?
Treftadaeth y Loteri Genedlaethol / National Lottery Heritage Fund - Cymru
02/06/2026
Am dro
Mae'n fraint cerdded o amgylch yr Hen Goleg a gweld y cynnydd o un wythnos i’r nesaf.
Fyny fry ar y tŵr, ac mae'r sgaffaldiau'n dod i lawr.
Wrth i’r lloriau ddod i lawr bob yn un, mae ffenestri newydd yn cael eu gosod a'r gwaith carreg yn cael ei adfer lle'r oedd y sgaffaldiau wedi'u clymu i’r tŵr neu’n agos at waliau.
Mae'r gwaith o ail-doi to crwn dros hen ddarlithfa De Seddon, a fydd yn sinema maes o law, hefyd wedi'i gwblhau.
Mae hyn yn golygu y gellir gostwng y sgaffaldiau er mwyn cwblhau rhan olaf to plwm De Seddon.
Un peth yn arwain at y llall.
Mae'r gwaith carreg ar dalcennau Gogledd Seddon, sy'n edrych dros Stryd y Brenin, hefyd bron â'i gwblhau gyda dargludyddion mellt bellach yn eu lle.
Ac, islaw, ar yr un ochr, mae cerrig unigol yn cael eu torri â llaw fel rhan o'r gwaith adfer.
Ac mae blychau ystlumod a phibellau draenio haearn bwrw newydd yn eu lle hefyd.
Y tu mewn i De Seddon, mae grisiau'n cael eu peintio, lloriau newydd yn mynd lawr, goleuadau'n cael eu gosod a nenfydau'n mynd i’w lle, ac mae teils ar waliau'r toiledau.
Mae'r gwaith o beintio’r Cwad wedi dechrau, ac yn yr atriwm, mae llawr concrit yr ystafell ddigwyddiadau newydd fawreddog yn ei le.
Oedd, roedd hi'n boeth wythnos diwethaf, ond parhaodd y cynnydd ar y safle.
Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru
28/05/2026
Heddiw rydyn ni'n rhannu Casgliad Athrawon Aber: 12 cartŵn o ddarlithwyr Prifysgol Aberystwyth yn dyddio o 1910.
Roedd yr artist, Ap Rhobert (ei enw go iawn oedd Howard Lloyd Roberts), yn ffigwr adnabyddus yn yr ardal. Roedd yn Athro Celf yn Ysgol Sirol Machynlleth ar droad yr ugeinfed ganrif. Yn y blynyddoedd wedyn, bu’n rhedeg busnes bwyd a becws yn ei bentref genedigol, y Borth, â’i gartwnau i’w gweld yn ei ffenestr siop.
Er bod y darn papur newydd canlynol yn cyfeirio at arddangosfa o waith gwahanol, mae'n crynhoi arddull artistig unigryw Ap Rhobert yn daclus:
“Yn ogystal â’i fedr diamheuol fel artist, gellir gweld yng ngwaith Mr Roberts fod ganddo gynneddf arsylwi gref, ac yn y rhan fwyaf o’i bortreadau mae wedi llwyddo i amlygu, mewn ffordd dra effeithiol, naill ai ystum nodedig neu ryw nodwedd neilltuol arall yn natur neu wisg yr unigolyn sy’n cael ei ddarlunio. Mae Mr Roberts yn anad dim yn ddyn o hiwmor, a gellir darogan â sicrwydd na fydd neb yn mwynhau ei luniau dychan yn fwy na gwrthrychau’r lluniau eu hunain.”
Edrychwn ymlaen at daflu goleuni ar lawer mwy o unigolion blaenllaw yn eu meysydd trwy gyfrwng y rhaglen o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd a gynhelir yn yr Hen Goleg pan fydd yn agor.
📷1- Yr Athro Fleur
📷2- Yr Athro Edward Edwards
📷3- Yr Athro Edward Annwyl
📷4- Yr Athro Jenkin Jones
📷5- Prifathro J F Roberts
📷6- Yr Athro Thomas Arthur Levi
📷7- Yr Athro T Stanley Roberts
📷8- anhysbys
📷9- anhysbys
📷10- Yr Athro Hermann Ethe
📷11- Yr Athro John Wilson Marshall
26/05/2026
Rhagor o wydr lliw
Wrth i'r gwaith ddechrau ar adfer y ffenestri gwydr lliw, mae'n werth oedi am eiliad ac edrych i mewn drwy'r ffenestr sgwâr, gron neu fwaog; chi sy'n cael dewis y tro hwn.
Mae arolwg manwl gan y cwmni adfer ffenestri lliw blaenllaw Holy Well Glass wedi nodi'r gwahanol fathau o wydr a gwaith plwm sydd ym mhob ffenestr, eu cyflwr a'r gwaith sydd ei angen i’w hadfer.
Mae ffenestri o bob lliw a llun yma.
Mae paneli ‘trefoil’, ‘cinquefoil’ a ‘sexfoil’, a ‘quatrefoil’ cwsp dwbl.
Ac mae cyfres o ffenestri rhosyn gyda ffenestri crwn bychain a phanel canolog mwy i’w gweld yn wal allanol yr Ystafell Seddon sy’n wynebu’r môr.
Er nad ydynt mor amlwg o’r tu allan, mae'r lliwiau a welir o'r tu mewn mor fywiog ag erioed.
Mae plu Tywysog Cymru i’w gweld ar ffenestri uwchlaw ambell ddrws, a ffenestri gafodd eu hachub o weddillion tân 1885 uwchlaw’r Cwad.
Ac yna mae dylanwad Art Nouveau ar ffenestr swyddfa’r porthorion wrth y brif fynedfa.
Bydd y rhan fwyaf yn cael eu hadfer yn eu lle a gwydr neu blwm newydd yn cael eu gosod yn ôl yr angen.
Bydd hynny'n golygu y bydd dros 1000 o ffenestri wedi cael eu hadfer wrth i ni roi bywyd newydd i'r Hen Goleg.
O, ac mae gargoeliau a grotesgau hefyd, ond daw cyfle eto i drafod rheini.
Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru
19/05/2026
Ffenestri lliw
Mae’r gwaith o adfer y ffenestri lliw wedi dechrau.
Mae'n cael ei wneud gan gwmni Ark Stained Glass, arbenigwyr yn y maes.
Eu tasg gyntaf oedd tynnu'r bum ffenestr wydr lliw fyny fry yn y Llyfrgell sy’n wynebu'r môr.
Cafodd y ffenestri, sy’n cynnwys darnau hyd at 1.5m o hyd, eu tynnu allan yn llwyddiannus mewn diwrnod ac yna eu cludo i weithdy Ark yn Droitwich.
Yno, byddant yn cael eu stripio a'u glanhau, a'r gwaith peintio cywrain yn cael ei wirio cyn eu hailadeiladu i’w cyflwr gwreiddiol gan ddefnyddio plwm newydd.
Ac, fel sy’n wir am gymaint o'r gwaith ar yr Hen Goleg, bydd yr amgylchedd arfordirol llym yn llywio'r broses adfer fel y gall y ffenestri wrthsefyll yr elfennau am flynyddoedd i ddod.
Edrychwn ymlaen at eu croesawu’n ôl.
Rydym eisoes wedi sôn am y pyst carreg sy'n amgylchynu'r ffenestri a sut maent wedi symud dros y blynyddoedd.
Fel rhan o'r gwaith adfer, bydd rhodenni dur gloyw yn cael eu hychwanegu at y pyst er mwyn sefydlogi'r adeilad cyn i'r ffenestri ddychwelyd.
Wedi i hyn gael ei wneud, gellir gwerthfawrogi’r ffenestri’n llawn gan y bydd modd tynnu'r trawst derw a osodwyd ar eu traws 60 mlynedd a mwy yn ôl i sefydlogi’r adeilad.
Yn y cyfamser, wyddech chi mai gwydr lliw o’r oesoedd canol oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer offeryn a ddyluniwyd ac a adeiladwyd gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer taith Asiantaeth Ofod Ewrop i'r blaned Mawrth yn 2028?
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.
Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru
14/05/2026
Roedd Olive Marsh yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1898 a 1900, yn byw yn Neuadd Alexandra yn ystod ei chyfnod yn hyfforddi i fod yn athrawes.
Mae ei llythyrau at ei dyweddi, yr Arglwydd Josiah Charles Stamp, a roddwyd i'r Brifysgol ym 1939, yn rhoi cipolwg diddorol ar fywyd myfyrwyr ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Trwy gydol eu hastudiaethau, ysgrifennodd y cwpl at ei gilydd bob dydd gan bostio llythyrau ddwywaith yr wythnos.
Mewn llythyr a anfonwyd ym mis Mai 1939, myfyriodd yr Arglwydd Stamp ar bwysigrwydd parhaol cyfnod Olive yn Aberystwyth, gan ysgrifennu:
"Nid ydym ein dau erioed wedi rhoi'r gorau i fod yn ddiolchgar am bopeth y mae ei phrofiad o Aber: wedi ei olygu yn ystod ein bywydau, ac rydym yn edrych gyda diddordeb a theimladau cynnes ar y bywyd a’r gobaith newydd sy’n llifo’n ddiderfyn wrth i’r naill genhedlaeth ar ôl y llall gamu o’r Neuadd i’r Coleg ger y Lli"
12/05/2026
Y Neuadd Arholiadau
Wnaethoch chi sefyll arholiad yma?
Ac a wnaethoch chi erioed edrych i fyny rhwng cwestiynau a meddwl pam na chafodd y bwâu eu gorffen?
I ddatblygwr Gwesty'r Castell, Thomas Savin, hon oedd yr ystafell eistedd fawr gydag ystafelloedd gwely ar y llawr uwchben.
Achosodd cwymp ariannol Savin ym Medi 1866 i'r gwaith ar y prosiect cyfan ddod i ben a chafodd y gwaith o gerfio’r cerrig byth mo’i orffen.
Ond, mae rhan fechan yn rhoi cipolwg ar yr hyn a fwriadwyd.
Yn ogystal â'r arholiadau, daeth yr Hen Neuadd yn lleoliad poblogaidd ar gyfer darlithoedd cyhoeddus y Brifysgol a digwyddiadau.
Fel rhan o'r trawsnewidiad i leoliad newydd gwych ar gyfer arddangosfeydd teithiol a gweithgareddau cymunedol, mae'r gwaith carreg yn cael ei lanhau ofalus iawn gan Swansea Decorating Services.
Ac, unwaith eto, daw’r lliwiau gwreiddiol i’r golwg wrth i'r haenau paent gael eu tynnu'n ofalus.
Gyda llaw, bu rhaid aros tan 1892 cyn i’r llyfrgell gael ei chwblhau.
Ym 1928, ysgrifennodd Iwan Morgan: “Roedd y Neuadd Arholiadau bresennol yn anghyflawn a pharhaodd heb do am 25 mlynedd, a bu rhaid aros tan ar ôl y tân i’w chwblhau – gwasanaethodd fel tomen ludw a chwt ffolws, a chartref i gytref o jac-y-dos a cholomennod swnllyd!”.
Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru